Arts Council of Wales has today announced the launch of a Resilience Fund to help the arts in Wales to protect themselves against the impact of the Coronavirus/COVID‑19 crisis.
The £7m Resilience Fund jointly financed by the Welsh Government and Arts Council of Wales will provide funding for individuals and organisations, managed by the Arts Council of Wales. Full details are to be published on Tuesday 7th April 2020.
Arts Council of Wales Chair, Phil George said:
“The Arts have always provided enjoyment and solace, especially in times of crisis. They are sorely missed in a world confined to self‑isolation and will be hugely important in the period of recovery from this grim pandemic. It’s therefore essential that we do everything possible to ensure that artists and arts organisations survive and regain their position at the heart of Wales’s culture and well‑being”
“Through the Arts Resilience Fund, £7m of funding will be available for those organisations and individuals who are at the most urgent risk. Our first task is to address immediate financial crisis and hardship.
“We have already relaxed funding requirements for organisations and individuals who have grant funding in place, allowing them to respond flexibly to the new challenges that they face. But today we go further. The Arts Resilience Fund will bridge the gap between immediate crisis and a future of new creative activity post‑Coronavirus, a future which is already stirring in the imaginations of our inventive artistic community.”
See also: Banksy Mural to be Moved From Port Talbot Garage to Gallery
Support
Outlining the next steps, Nick Capaldi, Chief Executive of Arts Council of Wales said:
“The Arts Resilience Fund joins the packages of funding previously announced by the UK and Welsh Governments. Our immediate task is to ensure that the opportunities offered by this unprecedented range of support are clear and easily understood and we’re working round the clock to finalise the practical detail. We know that those working in the arts are anxious for firm detail, but we hope that they’ll feel that the arts in Wales are best served by taking a day or two longer to get this right. We’ll provide details of the Fund on Tuesday 7th April.”
Nick Capaldi concluded by saying:
“In spite of the unimaginable stresses and strains that we’re feeling, artists have once again responded inventively to the challenge of the time. Within a matter of days, online platforms were alive with imaginative responses from publicly funded cultural organisations in Wales. We’re seeing live‑streamed concerts and readings, artists and musicians running online clubs and choirs, and dance organisations live‑streaming classes to their students. The irrepressible creative spirit of artists and arts organisations refuses to be undimmed. And it’s this that we’re working so hard to protect.”
The Arts Council of Wales is the official body charged with funding and developing the arts across Wales. Its mission is to make the arts central to the life and well‑being of the nation.
Network
The Arts Council support a nation‑wide network of 67 high‑quality arts organisations, its Arts Portfolio Wales. Altogether, the Portfolio promotes around 25,000 events and performances each year. The Arts Council also runs the Night Out service, with over 530 events and performances in local community settings across Wales. The restrictions on social gathering mean that all of this activity is temporarily suspended.
The £7million of funds is provided by the Welsh Government and Arts Council of Wales, with both reallocating most of the flexible funds at their disposal. As a result, the Arts Council has had to close, for the time being, its open‑to-application Lottery funds. A decision will be taken later in the year about when these can re‑open.
Image, top of page: Dream A Dream project at Aberystwyth Arts Centre, supported by Arts Council Wales.
And now the same news in ‘God’s own language’:
Cyngor Celfyddydau Cymru yn cyhoeddi cronfa ddycnwch ar gyfer celfyddydau Cymru
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru heddiw yn cyhoeddi lansio cronfa ddycnwch i ddiogelu celfyddydau Cymru rhag effaith argyfwng coronafeirws.
Dyma’r prif bwyntiau:
Cronfa ddycnwch o £7bmiliwn oddi wrth y Cyngor a Llywodraeth Cymru ar y cyd
Arian ar gyfer unigolion a sefydliadau
Y Cyngor sy’n rheoli’r gronfa
Manylion llawn i’w cyhoeddi ddydd Mawrth 7 Ebrill 2020
Heddiw, dywedodd Cadeirydd y Cyngor, Phil George:
“Mae’r celfyddydau bob amser yn rhoi mwynhad a chysur, yn enwedig mewn argyfwng. Mewn byd sy’n hunanynysu, mae colled fawr ar eu hôl. Byddant o’r pwys mwyaf hefyd wrth adfer y byd wedyn. Mae’n hanfodol felly ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod artistiaid a sefydliadau celfyddydol yn goroesi ac yn ailennill eu lle wrth wraidd diwylliant a lles Cymru.
“Drwy gronfa ddycnwch y celfyddydau, bydd £7 miliwn ar gael i’r sefydliadau a’r unigolion hynny sydd eu hangen fwyaf. Datrys argyfwng ariannol a lleddfu caledi fydd ein tasg gyntaf.
“Rydym ni eisoes wedi llacio’r gofynion ariannu i sefydliadau ac unigolion sydd â’n grantiau, fel y gallant ymateb yn hyblyg i’r anawsterau newydd. Ond heddiw awn ni gam ymhellach. Bydd cronfa ddycnwch y celfyddydau yn pontio’r bwlch rhwng yr argyfwng presennol a’r dyfodol o weithgarwch creadigol newydd ar ôl coronafeirws. Ac mae’r dyfodol eisoes yn ysgogi dychymyg ein cymuned artistig.”
Am y camau nesaf, meddai Prif Weithredwr y Cyngor, Nick Capaldi:
“Mae cronfa ddycnwch y celfyddydau yn ymuno â’r pecynnau ariannol a gyhoeddwyd yn barod gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain. Ein tasg yw gwneud cyfleoedd y gronfa’n glir a hawdd eu deall. Rydym ni’n gweithio ar frys i lunio’r manylion ymarferol. Rydym ni’n gwybod o’r gorau bod y sector yn awyddus i gael manylion pendant. Ond gobeithio y bydd pawb yn deall mai diwrnod neu ddau ychwanegol fydd yn sicrhau’r canlyniad gorau i bawb yn y pen draw. Felly ddydd Mawrth 7 Ebrill bydd yr holl fanylion ar gael.
“Er gwaethaf y pwysau trwm sydd ar ysgwyddau pawb, mae artistiaid unwaith eto wedi ymateb yn greadigol i her yr amseroedd. Mewn ychydig ddyddiau’n unig, ymddangosodd ar-lein ymatebion bywiog a dyfeisgar gan sefydliadau diwylliannol sy’n cael ein harian cyhoeddus. Rhan o’r arlwy yw cyngherddau, darlleniadau a dosbarthiadau dawns sy’n cael eu ffrydio’n fyw a chlybiau a chorau ar-lein. Mae’r goleuni creadigol yr artistiaid a sefydliadau celfyddydol yn gwrthod llechu yn y cysgodion. A dyna beth rydym ni’n gweithio mor galed i’w amddiffyn.”
Diwedd Dydd Mercher 1 Ebrill 2020
Nodiadau i’r golygydd
Cyngor Celfyddydau Cymru yw’r corff swyddogol sy’n gyfrifol am ariannu a datblygu celfyddydau Cymru. Ei genhadaeth yw gwneud y celfyddydau yn ganolog i fywyd a lles Cymru.
Mae’r Cyngor yn ariannu rhwydwaith o 67 sefydliad celfyddydol o safon – Portffolio Celfyddydol Cymru. At ei gilydd, mae’r Portffolio yn hyrwyddo tua 25,000 ddigwyddiad a pherfformiad bob blwyddyn. Mae’r Cyngor hefyd yn cynnal gwasanaeth Noson Allan, gyda dros 530 digwyddiad a pherfformiad mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru. Mae cyfyngiadau coronafeirws yn golygu bod yr holl weithgarwch wedi’i atal dros dro.
Mae’r £7 miliwn yn cael ei ddarparu gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru gyda’r ddau gorff yn ailddyrannu’r rhan fwyaf o’r arian hyblyg sydd ganddynt. O ganlyniad, roedd yn rhaid i’r Cyngor gau, dros dro, ei raglenni Loteri sy’n agored i gais. Bydd y Cyngor yn penderfynu pryd i ailagor y rhain yn nes ymlaen yn y flwyddyn.